ₕᵤ𝓌 Dᵧₗₐₙ ₒ𝓌ₑₙ
1.8K posts


Celfyddyd 18/7/2025
Daw Daniel ag awen a doniau - graen
ei grefft i Ddolgellau;
pletha fydr a gwydr a'u gwau
â llewyrch i greu lliwiau.
Gwaith gwydr Daniel Mahers, Abertawe.
Cerddoriaeth Tud Jôs - Y Gwydr Glas
vm.tiktok.com/ZNdHdDRrs/
Dolgellau, Wales 🇬🇧 CY

Llwyddiant!
Weithiau wir mae hi werth o - i roi stamp
a chreu stŵr a chwyno
a rhegi dros Gymreigio:
hon yw'r frwydr dros wella'r fro.
@postoffice
@comygymraeg
@ofcomcymraeg
@Cymdeithas
x.com/Gurfal/status/…


ₕᵤ𝓌 Dᵧₗₐₙ ₒ𝓌ₑₙ@Gurfal
Gormes Hwyrach fod swyddfeydd llythyrau - y byd ymhob iaith fedd mamau bro leol rhag iselhau... Ni ellir yn Nolgellau. @postoffice @comygymraeg @ofcomcymraeg @Cymdeithas
Dolgellau, Wales 🇬🇧 CY

Genedigaeth
Darfod a fu i'r diderfyn - aeaf
a'i wywo mor sydyn,
Â'i las wawr dan yr haul syn
i gynnal dychwel gwanwyn.
#Heuldro #AlbanEilir

Swansea, Wales 🇬🇧 CY

Dechrau Newydd
I'n Calan ar wib yn gibddall - deuwn
â diolch heb ddeall:
Pob gwawr, bob awr daw'n ddi-ball
o flerwch gyfle arall.
#BlwyddynNewyddDda
Dolgellau, Wales 🇬🇧 CY

Rhad
O dan dy goeden eleni - boed hwyl,
byd o hedd a miri'n
lonwedd, boed it haelioni,
a gwên iach yn rhwydd gen i.
#NadoligLlawen
Swansea, Wales 🇬🇧 CY

Shane MacGowan (25/12/1957 - 30/11/2023)
I ba le heddiw aeth blwyddyn - a ble'r
aeth llais bloesg yr hogyn?
Mi aeth awen amheuthun
ond parhau mae doniau'r dyn.
youtu.be/6s8lvnSmISc?si…

YouTube
CY

Catrin Ferch Glyndŵr
Nid seigiau i dywysogion - nid gwên
Ond gwarth carcharorion
A grym ymerodraeth gron
Ry hualau mor greulon.
pellcerdd.bandcamp.com/track/catrin
CY

Ffarwel i'r Marian
O'ma fe aiff eich timau
heb gôl yn wynebu'u gwae
o golli yn Nolgellau.
@cpdDolaafc
@Lawnt


Dolgellau, Wales 🇬🇧 CY

Kamala a'i Dryll
Dywed chwaer daer, heb dosturi - å gwên:
ddatganiad i lonni
y byd hwn gan ei bod hi
yn bleidiol i'r bwledi.
#Amerig2024

Wales, United Kingdom 🇬🇧 CY

Alban Elfed
Er tywyll yw rhod daear
Bedd Gurfal sydd ddi-alar
â gwawl ei oleuni gwâr.
#Mabon
#CyhydnosYrHydref

CY

Pws
Am fyw'n unigryw ddigri - am roi'i gân
mor gain ac am roddi
dawn ei hwyl i'n hienctid ni:
Ein diolch rown i Dewi.
#DewiPws

Swansea, Wales 🇬🇧 CY

Gormes
Hwyrach fod swyddfeydd llythyrau - y byd
ymhob iaith fedd mamau
bro leol rhag iselhau...
Ni ellir yn Nolgellau.
@postoffice
@comygymraeg
@ofcomcymraeg
@Cymdeithas

Wales, United Kingdom 🇬🇧 CY

Diolch am Gefnogi @SesiwnFawr Dolgellau
I'n gigiau o bell ac agos - daethoch
ar deithiau yn ddiddos
yn dylwyth am benwythnos,
yn deulu haf i'n tre' dlos.

Dolgellau, Wales 🇬🇧 CY




